Casgliad y Werin

Rydyn ni’n gwarchod ac yn dathlu cyfoeth hanes Cymru drwy gasglu profiadau’r bobl oedd yno – chi!

Gwefan yw Casgliad y Werin sy’n adnodd rhad ac am ddim lle gallwch ddathlu hanes a threftadaeth Cymru trwy archwilio miloedd o eitemau o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd llai, ac mae'n le gallwch rannu'ch straeon a'ch atgofion chi am Gymru.
https://www.casgliadywerin.cymru/
 

Allwch chi helpu i gyfoethogi hanes diwylliannol Cymru? Dechreuwch rannu eich stori...


Fel rhan o Brosiect Treftadaeth 'Iolo ar Daith', mae'r Fenter wedi trefnu sesiwn hyfforddiant i drigolion o'r Fro ddysgu mwy. Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad i'r wefan a sut i ddod o hyd i drysorau'r Casgliad, ynghyd â chyngor ar sut i uwchlwytho eich ffotograffau, recordiadau sain, dogfennau a fideos eich hunain!

10am - 1pm ar ddydd Iau Rhagfyr 7fed, yn Llyfrgell y Barri

Mae'r sesiwn yn cael ei chynnig yn rhad ac am ddim, a darperir lluniaeth ysgafn.


Mae'r niferoedd yn gyfyngedig iawn felly os hoffech chi'r cyfle i fod yn rhan o'r sesiwn hwn cysylltwch â ffion@menterbromorgannwg.cymru / 029 20689888
 

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau ar hyn o bryd