SIOE DEULUOL IOLO MORGANWG

Yn rhan o'r prosiect, comisiynwyd 'Mewn Cymeriad' i greu sioe un dyn newydd sbon am Iolo Morganwg. Cyfansoddwyd y sgript gan Aled Richards, yn dilyn gweithdy sgriptio gyda disgyblion Drama Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, ac fe berfformiwyd rhan Iolo gan Danny Grehan.

Cafwyd perfformiad cyntaf o'r sioe yn ystod Gwyl Fach y Fro 2017, ac yna fe aeth Iolo ar daith o gwmpas ysgolion Cymraeg y Sir i ddysgu plant y Fro am eu treftadaeth trwy gyfrwng theatr rhyngweithiol.

Yn ystod tymor yr haf 2017 cafodd y sioe ei pherfformio i dros 550 o blant, rhieni a staff yr ysgolion, ac mae detholiad o luniau o'r perfformiadau isod.

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau ar hyn o bryd