PRIF WEITHREDWR

MENTER CAERDYDD A MENTER BRO MORGANNWG

Yn dilyn penodiad ein Prif Weithredwr presennol i rôl Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru,  ‘rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig sy'n frwdfrydig dros y Gymraeg i arwain y ddwy Fenter yn llwyddiannus i'r cyfnod nesaf gan gynnwys dathliadau 20 mlynedd Menter Caerdydd yn 2018.

Y Prif Weithredwr sydd, mewn cydweithrediad a’r Byrddau Rheoli, yn gosod cyfeiriad strategol i holl waith y ddwy Fenter ac sy’n gweithredu fel llysgennad dros bopeth mae’n ei gynrychioli. Mae’n gyfrifol am roi arweiniad ac ysbrydoli 12 o staff a sicrhau cyfathrebu effeithiol gyda rhanddeiliaid a gwirfoddolwyr.

Mae croeso i chi gysylltu â Siân Lewis (Prif Weithredwr) ar 07826 000704 neu Sian@MenterCaerdydd.Cymru am sgwrs anffurfiol am y swydd.

Am becyn gwybodaeth a ffurflen gais cysylltwch â swyddi@effectusHR.com

Cyflog: £42,979 - £51,862 

Dyddiad Cau:  Dydd Llun 23ain Hydref 2017 (Hanner Dydd)

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau ar hyn o bryd