Sgwrs y Mis: Ebrill (Zoom)

Yn y sgwrs hon, bydd yr Athro M. Wynn Thomas yn ein cyflwyno i'w gyfrol newydd, Poems from the Soul: Twelve of the Great Hymns of Wales. Mae'r llyfr, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru, yn trafod ddeuddeg o'n hemynau mwyaf poblogaidd, o'r 18fed i'r 20fed ganrif, gan fanylu ar gerddi'r werin – gofaint, amaethwyr a phregethwyr. Dechrau'r daith yw geiriau cyfarwydd 'Dyma gariad fel y moroedd', ac wedi hynny cawn ein tywys trwy emynau grymus rhai o'n mawrion, megis Ann Griffiths a Williams Pantycelyn. Dyma gyfle i ddysgu mwy am rai o'r emynau sydd wrth wraidd ein cenedl fodern ac yng nghalonnau cynifer ohonom.