MENTER BRO MORGANNWG YN ENNILL CEFNOGAETH WRTH GRONFA DREFTADAETH Y LOTERI

Mae Menter Bro Morgannwg wedi derbyn £10,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ar gyfer prosiect cyffrous, ‘Iolo ar Daith’; prosiect a fydd yn olrhain bywyd a chyfraniad un o ffigyrau hanesyddol mwyaf eiconig Bro Morgannwg, sef Iolo Morganwg.

Bydd y prosiect yn galluogi pobl o bob oed ddod i wybod mwy am gyfraniadau Iolo Morganwg – i Fro Morgannwg, Cymru a thu hwnt. Byddwn yn cyd-weithio gyda Mewn Cymeriad (www.mewncymeriad.cymru) i greu sioe deuluol i’w berfformio yn Gŵyl Fach y Fro 2017, gweithdy sgriptio gyda disgyblion Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg a sioe stand-up i oedolion yn rhan o raglen Gigs Bach y Fro, a bydd y prosiect hefyd yn cynnwys cyfres o sesiynau ymchwil, arddangosfeydd a darlithoedd.

Roedd Iolo yn enedigol o Lancarfan, ar gyffiniau’r Bontfaen, ac er iddo dreulio cyfnodau o’i fywyd yn teithio ar hyd a lled Cymru, Caint a Llundain, roedd ei ardal enedigol yn dal i fod yn bwysig iawn iddo a bu ei gartref parhaol yn Nhrefflemin tan fu farw. Mae cofeb wedi ei osod y tu allan i’r adeilad lle bu Iolo’n rhedeg siop groser (sydd nawr yn siop goffi Costa yn y Bontfaen), ac mae’r ysgol Gymraeg lleol wedi ei enwi ar ei ôl. Roedd yn falch iawn o’r ffaith fod ei wreiddiau yn ddwfn ym Morgannwg, a chyfranodd ei ardal frodorol yn fawr at ei weledigaeth. Dyma bwnc unigryw sy’n cynnig nifer o haenau diddorol i’w hadrodd o fewn y prosiect.

Os oes diddordeb gyda chi i wybod mwy am y prosiect a’r cyfleoedd sydd ar gael i chi gymryd rhan, cysylltwch gyda Ffion Rhisiart ar 029 2068 9888 / ffion@menterbromorgannwg.cymru

 

GRŴP YMCHWIL | SIOE MEWN CYMERIAD | NOSON GOMEDI | ARDDANGOSFA | CASGLIAD Y WERIN

 

Taflen Wybodaeth

Taflen Wybodaeth

 

 

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau ar hyn o bryd