HYSBYSEB SWYDD

Swyddog Datblygu Menter Bro Morgannwg


Mudiad lleol yw Menter Bro Morgannwg sy’n hyrwyddo ac ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ym Mro Morgannwg.

Prif ddyletswyddau y rôl yw cydlynu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau amrywiol i bobl o bob oed ar hyd a lled Bro Morgannwg er mwyn iddynt gael mwy o gyfleoedd i fwynhau a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yr unigolyn delfrydol yn dod â phrofiadau blaenorol o drefnu digwyddiadau/gweithgareddau cymunedol a syniadau newydd ac arloesol i barhau i adeiladu a datblygu y ddarpariaeth Gymraeg ar hyd a lled Bro Morgannwg.

Cyflog: £21,376 - £24,781 (yn ddibynnol ar brofiad)

Lleolir y swydd yn swyddfa Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg, Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd, ond bydd disgwyl presenoldeb rheolaidd ym Mro Morgannwg.

Am sgwrs bellach ebostiwch: manon@menterbromorgannwg.cymru

Dyddiad Cau: Dydd Iau 23ain o Fai 2019 am 12pm

Cyfweliadau yn debygol o fod: Dydd Gwener 30ain o Fai 2019 (i’w gadarnhau)

 

There are currently no events or activities