CEFNDIR

Sefydlwyd Menter Bro Morgannwg yn Ebrill 2013, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg drwy greu cyfleoedd i drigolion y Sir ddefnyddio’r iaith tu allan i oriau gwaith a muriau’r ysgol.

Mae Menter Bro Morgannwg yn Gwmni Cyfyngedig Drwy Warant (8867706) ac yn Elusen Gofrestredig (1179555).

 

SWYDDOGION

Prif Weithredwr

Heulyn Rees – heulyn@menterbromorgannwg.cymru

Swyddog Datblygu

Michael Goode – michael@menterbromorgannwg.cymru

Swyddog Teuluoedd

Bethan Knox - bethan@menterbromorgannwg.cymru 

Swyddog Oedolion / Dysgwyr 

Rachel Matthews - rachel@mentercaerdydd.cymru

 

PWYLLGOR RHEOLI

Mae Pwyllgor Rheoli Menter Bro Morgannwg yn cwrdd 6 gwaith y flwyddyn. Rôl y Pwyllgor Rheoli ydy sicrhau fod swyddogion cyflogedig y Fenter yn cyflawni eu gwaith dyddiol, cynnig cyngor a chefnogaeth i swyddogion y Fenter a sicrhau fod Menter Bro Morgannwg yn atebol am yr holl wariant cyhoeddus trwy gymeradwyo a goruchwylio gweithdrefnau rheoli cyllid.

 

FFORWM IAITH BRO MORGANNWG

Rydym wedi sefydlu a'n arwain Fforwm Iaith Gymraeg Bro Morgannwg ers 2013, er mwyn dod â mudiadau a chymdeithasau sy'n gweithredu drwy'r iaith Gymraeg ym Mro Morgannwg at ei gilydd; i adrodd nôl am eu maes gwaith, rhannu syniadau am arfer da ac ystyried cyfleoedd i gyd-weithio. Mae Fforwm Iaith Bro Morgannwg yn cynnwys cynrychiolwyr o Ysgolion Cyfrwng Cymraeg y Sir, Urdd Gobaith Cymru, Cymraeg i Blant, Cymraeg i Oedolion, Merched y Wawr, Coleg Caerdydd a'r Fro, Mudiad Meithrin a Chynrychiolwyr o Gymdeithasau'r Fro.

 

RHYBUDD PREIFATRWYDD

 

POLISI CWYNO 

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau ar hyn o bryd