Gŵyl Fach y Fro
21.05.22 | 11am-8pm | Ynys y Barri
Digwyddiad Am Ddim!
GWEITHGAREDDAU I BLANT
Bydd llwyth o weithgareddau amrywiol i i ddiddanu plant o bob oed yn Gŵyl Fach y Fro eleni eto, a'r cwbl yn rhad ac am ddim!
Sioe Siani Sionc
Dewch draw i ganu a dawnsio gyda Siani Sionc.
Mae Siani Sionc yn gymeriad sy’n ymweld ag ysgolion, meithrinfeydd a digwyddiadau i gynnig profiad creadigol i blant Cymru drwy weithgareddau canu, dawnsio a drama. Oed targed: 0-7
11am: Prif Lwyfan
Anturwyr Bach ar y Traeth (Chwarae Blêr)
Ymunwch â Hannah am Sesiwn Chwarae Blêr ar y traeth. Oedran Darged: 0-5 oed
12pm: Cyfarfod wrth Gaffi Giovanni am 11:55pm
Ardal Chwarae
Bydd yr Ardal Chwarae yn cynnig llawer o weithgareddau chwarae awyr agored gan gynnwys swigod Dr Zigs, gemau, sgiliau syrcas a chelf a chrefft.
Gweithdai Celf
Bydd yr artistiaid lleol Haf Weighton a Helen Mosely yn cynnal gweithdai celf drwy'r dydd yn yr ardal blant o dan yr Eastern Shelter. Bydd Recreate hefyd yn cynnal gweithdai Celf eco gyfeillgar yn yr un lle.
Chwaraeon
Bydd Adran Chwaraeon yr Urdd yn cynnal gweithdai Chwraeon rhwng 11-2pm.