Gŵyl Fach y Fro

21.05.22  |  11AM-8PM  |  YNYS Y BARRI

DIGWYDDIAD AM DDIM!

 

GALW AM WIRFODDOLWYR

Rydym yn chwilio am grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig a chyfeillgar i gynorthwyo gyda rhediad a llwyddiant Gŵyl Fach y Fro 2022. Prif rôl y gwirfoddolwyr bydd bod yn bwynt cyswllt i'r cyhoedd, a dosbarthu taflenni gwybodaeth o gwmpas y promenâd.

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu mewn i shifftiau, ac fel diolch am eich amser byddwch yn derbyn tocyn bwyd i'w wario yn un o stondinau bwyd yr ŵyl.

Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o'r ŵyl gyffrous hon!

Rydym yn chwilio’n benodol am siaradwyr Cymraeg (dros 16 oed), ac yn croesawu dysgwyr o bob lefel.

Os oes gennych ddiddordeb, llenwch y ffurflen yma.

DIOLCH YN FAWR O FLAEN LLAW AM EICH CYDWEITHREDIAD

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau ar hyn o bryd