Gŵyl Fach y Fro 2017!

DYDD SADWRN MEHEFIN 17EG
11.30am – 7pm
Promenâd Ynys y Barri

 

Mae llwyth o bethau ar gael i blant o bob oed yn ystod y diwrnod, a'r cwbl yn rhad ac am ddim!


Ardal Chwarae
Am y tro cyntaf eleni, bydd ardal penodol gyda llwyth o weithgareddau chwarae agored gan gynnwys beiciau bybls, beiciau disgo a celf a chrefft. Yn ogystal â hyn, bydd Green City Events yn arwain y gweithgareddau canlynol:
12 - 1.30pm: Creu Penwisg
2 - 3.30pm: Gweithdy Printio a Chlai
2 - 3.30pm: Sgiliau Syrcas
3.30 - 4pm: Gemau Parasiwt
4 - 6pm: Blodau Papur


Chwaraeon
Bydd Adran Chwaraeon yr Urdd yn cynnal gweithgareddau chwaraeon amrywiol drwy gydol y diwrnod gan gynnwys sesiynau golff, pêl-droed a rygbi.


Wâc Welis
2pm: Taith natur ar y traeth dan arweiniad Jén Dafis, dewch i ddysgu mwy am fyd natur trwy hwyl. Gweithgaredd i’r teulu cyfan, ac wedi’i anelu yn benodol at blant 0 – 5 mlwydd oed.


Gweithdy Clocsio
1pm: Ymunwch â chriw talentog Band Nantgarw am weithdy stepio hwyliog ar y promenâd.

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau ar hyn o bryd