GŴYL FACH Y FRO 2017!

DYDD SADWRN MEHEFIN 17EG
11.30AM – 7PM
PROMENÂD YNYS Y BARRI


DIGWYDDIAD AM DDIM!


Eisiau cynllunio sut i gyrraedd Ynys y Barri ddydd Sadwrn? Dyma wybodaeth am drafnidiaeth cyhoeddus a llefydd parcio...

O BENARTH...
Trên o orsaf Cogan i Ynys y Barri yn gadael am 03 / 18 / 33 munud wedi bob awr, a'r trên uniongyrchol olaf yn gadael yr Ynys am 22:44

O LANILLTUD FAWR...
Bydd angen i chi ddal dau drên, y cyntaf i orsaf y Barri, yna i Ynys y Barri - yn gadael gorsaf Llanilltud Fawr am 56 munud wedi bob awr, a'r trên uniongyrchol olaf yn gadael yr Ynys am 20:55

O GAERDYDD...
Trên o orsaf Canol Caerdydd i Ynys y Barri yn gadael am 10 / 25 / 55 munud wedi bob awr, a'r trên uniongyrchol olaf yn gadael yr Ynys am 22:44

PARCIO...
Os yn dod mewn car, mae maes parcio mawr ar Ynys y Barri sy'n costio hyd at £7 am ddiwrnod llawn (8am - 11pm). Mae hefyd maes parcio am ddim ger gorsaf drenau Dociau'r Barri, a gallwch ddal trên 5 munud draw i Ynys y Barri.
 

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau ar hyn o bryd