GRŴP YMCHWIL

Mae Menter Bro Morgannwg wedi derbyn £10,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) ar gyfer prosiect cyffrous, ‘Iolo ar Daith’; prosiect a fydd yn olrhain bywyd a chyfraniad un o ffigyrau hanesyddol mwyaf eiconig Bro Morgannwg, sef Iolo Morganwg.

Dan arweiniad Dr Dylan Foster Evans, mae’r prosiect yn ddibynnol ar waith ymchwil gan aelodau o’r gymuned - ac rydyn ni angen eich help chi!

Bydd y grŵp ymchwil yn cyfarfod am ddau sesiwn er mwyn trafod a chasglu gwybodaeth i'w cynnwys ar fyrddau arddangos a thaflenni gwybodaeth.

Os oes gennych chi ddiddordeb i gymryd rhan yn y prosiect mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ffion@menterbromorgannwg.cymru / 029 20689888

 

DYDDIADAU PWYSIG:

Mai 9fed + 16eg 2017: Sesiynau Ymchwil

Mehefin 17eg 2017: Gwyl Fach y Fro (taflenni gwybodaeth i'w dosbarthu)

Tachwedd 19eg 2017: Darlith gan Dr Dylan Foster Evans, "Iolo Morganwg ddoe a heddiw: golwg ar ddylanwad y gŵr hynod hwn ym Morgannwg a thu hwnt, o Oes Victoria hyd heddiw. A thybed beth y mae Iolo yn ei olygu i ni yn yr unfed ganrif ar hugain?"

Rhagfyr 7fed 2017: Hyfforddiant Casgliad y Werin

Ionawr - Mawrth 2018: Arddangosfa i'w gweld mewn mannau cyhoeddus

Mawrth 24ain 2018: Noson Gomedi (Gigs Bach y Fro)

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau ar hyn o bryd