Hoffech chi weld Meithrinfa Gymraeg yn y Fro?
Holiadur Asesiad Anghenion am Feithrinfa Dydd cyfrwng Cymraeg yn y Barri
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg i ystyried y posibilrwydd o sefydlu Meithrinfa Dydd cyfrwng Cymraeg ar safle Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Heol Colcot, Y Barri. Hon fyddai'r Feithrinfa Dydd cyfrwng Cymraeg cyntaf ym Mro Morgannwg, yn darparu gofal rhagorol i fabanod a phlant ifanc dan ofal staff cymwys a phrofiadol mewn awyrgylch deniadol, cyfeillgar a Chymreig.
Bydd y Feithrinfa:
- Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener 7.30am - 6pm, am 52 wythnos o'r flwyddyn
- I blant a babanod 6 wythnos - 5 mlwydd oed
- Yn cynnig lle i 36 o blant
- Yn cynnig cyflogaeth i 10 o staff
- Yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Gofal Plant
- Yn gallu cynnig gofal cofleidiol (wrap around) yn ôl y galw
- Yn cynnig ffioedd cystadleuol yn unol â darpariaethau eraill yr ardal (£45 - £50 y diwrnod yn seiliedig ar brisiau 2017), ac yn cofrestru i allu derbyn Talebau Gofal Plant
Mae Menter Bro Morgannwg yn awyddus i gael eich barn chi fel rhieni, darpar rieni, neu ddefnyddwyr gwasanaeth posibl yn y dyfodol. Ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i gwblhau'r holiadur byr, ac fe fydd un person lwcus yn ennill taleb £50 John Lewis!
http://bit.ly/MeithrinfaGymraeg-WelshNursery
Nid oes unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau ar hyn o bryd